We are currently taking Christmas orders for delivery between 9th and 17th December 2024. We are unable to deliver any gifts after this date. We will pause our website for delivery's after 17th December. Thank you.

"Faint?", meddai wrth i mi ddweud wrthi faint oedd pris y caws yr oedd hi wedi'i ddewis o'r oergell

-Read this in English here

"Faint?", meddai wrth i mi ddweud wrthi faint oedd pris y caws yr oedd hi wedi'i ddewis o'r oergell. Ni phrynodd ef. Gadawodd y siop gan glochdar yn uchel wrth ei ffrindiau am ba mor ddrud yr oedd y darn hwnnw o gaws. Bu'n wythnos brysur rhwng y siop, digwyddiadau blasu a ffair briodas. Doedd gen i ddim egni ar y pryd, ac ni allwn ddod o hyd i'm sgiliau gwerthu. Roedd arnaf angen coffi!

Weithiau, rwy'n teimlo bod yn rhaid i mi gyfiawnhau'r pris, gan egluro wrth bobl, a'u haddysgu. Nid archfarchnad mo'r cwmni hwn, ac nid cawsiau archfarchnad mo'r cawsiau hyn. Yn ogystal â hyn, roedd y caws yr oedd y cwsmer wedi'i ddewis hefyd yn gaws llaeth dafad. Pe byddech yn ystyried cymaint o laeth y gellwch ei gael gan fuwch, ac yn cymharu hynny â'r hyn y gellwch ei gael gan ddafad, mae modd deall pam y mae yna wahaniaeth yn y pris. Mae gan archfarchnadoedd bŵer i fwlio a gostwng prisiau. Dydw i ddim am fwlio fy ngwneuthurwyr caws i gael prisiau rhatach! Mae gwneud caws yn waith caled, poeth, ac yn ddwys iawn o ran llafur. Pe bawn i'n gofyn i rywun ar y stryd – "A wnewch chi weithio am lai o gyflog?", byddai'n chwerthin yn fy wyneb. Ond yr un peth ydyw, onid e? Mae hefyd yn gwneud i mi ystyried hyn – faint y byddech chi yn ei dalu am beint neu wydraid o jin a thonig mewn bar? Byddai hynny un pris â darn o gaws (y gallech ei rannu, pe byddech yn dymuno gwneud hynny). Ond pam y mae'n ymddangos fod gan gaws lai o werth na diod mewn bar?

Dyweder eich bod am ddechrau eich busnes eich hun yn gwneud caws lleol o Gymru. Bydd arnoch angen llaeth lleol Cymreig o ansawdd da. Mae hyn yn golygu y bydd arnoch angen ffermwr sy'n gofalu'n dda am ei wartheg. Yna, bydd arnoch angen cyfleuster sy'n berffaith lân i wneud y caws, ynghyd â llawer o gyfarpar. Os byddwch yn gwneud caws aeddfed, efallai na ellwch ei werthu am hyd at chwe mis neu flwyddyn (mae hwn yn amser hir i aros am eich cyflog). Yna, rhaid i chi ystyried y costau o ran pecynnu a marchnata'r cynnyrch. Bydd y caws wedyn yn cael ei werthu yn siop The Little Cheesemonger yn Rhuddlan, a fydd, yn amlwg, yn gorfod ychwanegu ei phris ei hun i fynd i'r afael â chostau rhent a thrydan y siop, ac yn y blaen.

Y tro nesaf y byddwch yn prynu darn o gaws artisan gan gwmni lleol bach, dywedwch DA IAWN wrthych chi eich hun. Rydych wedi rhoi arian ym mhocedi llawer o bobl. Rydych wedi talu'r ffermwr i fwydo a gofalu am ei wartheg, ei ddefaid, a'i eifr. Rydych wedi cynnal cyflogaeth gwneuthurwr a gwerthwr caws, ac, yn goron ar y cyfan, cewch fwynhau rhywbeth blasus.

Diolch i chi am gadw stryd fawr y Rhuddlan yn fyw ac yn iach.