Pa gaws sydd yn ddiogel i'w fwyta pan fyddwch yn feichiog?
Roedd gennyf stondin gaws yn ddiweddar yn ein gŵyl fwyd leol, ac roeddwn yn cynnig samplau o gaws i bawb a oedd yn mynd heibio. Rwy'n gwerthu llawer o gawsiau heb eu pasteureiddio. Golyga hyn y mathau o gaws sydd wedi'u gwneud o laeth heb ei basteureiddio. Rydym weithiau'n ei alw'n gaws llaeth amrwd, sy'n golygu bod y bacteria a'r mân-flodau yn cael eu gadael yn y llaeth (a ddim yn cael eu lladd trwy eu pasteureiddio). Gall hyn roi blasau unigryw a chymhleth i'r caws, nad ydych yn eu cael mewn caws wedi'i basteureiddio. Rydych siŵr o fod wedi bwyta caws parmesan (ac ar y nodyn hwnnw, nid yw'r llysieuol chwaith), wel nid yw parmesan wedi'i basteureiddio.
Cymerodd un o'r cwsmeriaid a oedd yn mynd heibio sampl o gaws, ac wrth iddi ei fwyta eglurais ei fod yn gaws heb ei basteureiddio. Rhedodd hi i ffwrdd yn gyflym gan edrych am y bin agosaf i'w boeri allan. Eglurodd ei gŵr ei bod yn feichiog. Roedd hyn yn drueni oherwydd ni chefais y cyfle i'w sicrhau ei bod yn berffaith ddiogel bwyta'r caws penodol hwnnw er ei fod heb ei basteureiddio. Dyma'r cyngor ar wefan y GIG ... Mae pob caws caled yn ddiogel yn ystod beichiogrwydd. Gallwch fwyta cawsiau caled, er enghraifft cheddar, parmesan a stilton, hyd yn oed os ydynt wedi'u gwneud o laeth heb ei basteureiddio. Nid yw cawsiau caled yn cynnwys cymaint o ddŵr â chawsiau meddal, felly mae bacteria yn llai tebygol o dyfu ynddynt. Mae'n bosibl i gaws caled gynnwys listeria, ond ystyrir bod y risg yn fach. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan y GIG, mae'r ddolen yma ...
Rydw i bob tro'n gofyn beth yr ydych yn gyfforddus ag ef, ac os bydd caws heb ei basteureiddio yn peri pryder i chi o gwbl, rydw i yma i gael sgwrs a gallaf eich cyfeirio at rywbeth yr un mor flasus na fydd yn peri unrhyw ofid i chi.
Gemma Williams The Little Cheesemonger & Bump